Cerdded i Wella Iechyd
Amcan Camau@Iechyd yw cael mwy o bobl i gerdded. Mae cerdded yn ffordd rwydd, bleserus a rhad o wella eich iechyd - does dim angen dillad arbennig ar wahân i bâr o sgidiau cerdded cyffyrddus
Er mwyn eich cynorthwyo i ddechrau arni mae gennym nifer o deithiau byr o amgylch y sir yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr lleol sy wedi'u hyswirio. Gweler Programme of Walks am fwy o wybodaeth ynghylch y daith gerdded sy'n agos atoch chi. Mae'r teithiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer pwy bynnag sy am fod yn fwy gweithgar neu sy am ailgydio mewn gweithgaredd. Mae'r teithiau'n para am 30 i 60 munud gyda digonedd o gyfle i gymdeithasu wedyn. Mae pawb yn cerdded yn ôl cyflymdra o'u dewis ac felly mae'r teithiau'n addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a dyw profiad blaenorol ddim yn angenrheidiol.
Gweler ein Llyfryn (lawrlwytho 103k)
Pam mae cerdded yn llesol?
Disgrifiwyd cerdded fel y dull delfrydol o weithgaredd corfforol.
* Gall bron pawb ei wneud a hynny unrhyw le ac unrhyw amser.
* Gwna i chi deimlo'n dda, mae'n lleihau straen ac mae o gymorth i ymlacio a chysgu'n well.
* Mae cerdded dwy filltir bob dydd yn lleihau 28% oddi ar y perygl o gael trawiad ar y galon.
* Gall cerdded yn rheolaidd gynorthwyo i golli pwysau - hyd at 14lb mewn tri mis, mewn rhai achosion.
* Rydych yn defnyddio mwy neu lai'r un faint o galorïau p'un a ydych yn cerdded neu'n loncian yr un pellter.
Mae cerdded, waeth ar ba gyflymdra, yn sicrhau'r manteision canlynol:
* Cynyddu cryfder y cyhyrau, yn rhoi mwy o egni a chynyddu stamina
* Gwella eich hwyliau a chynyddu eich hyder
* Cynyddu colesterol da a chynorthwyo i golli pwysau
* Cynorthwyo i atal clefyd siwgwr
* Lleihau'r perygl o glefyd y galon, strôc, osteoporosis, gwynegon a rhai canserau
Gall cerdded yn sionc hefyd:
* wella perfformiad y galon a'r ysgyfaint
* ostwng pwysedd gwaed
Cerdded yn sionc yw cerdded yn ddigon cyflym i'ch gwneud i anadlu ychydig yn gyflymach, i deimlo'n gynhesach ac i wneud i'r galon guro'n gyflymach. Ond fe ddylai bob amser fod yn gyffyrddus ac fe ddylech, yr un pryd, fod yn abl i siarad!
Er mwyn ymestyn y cynllun ar draws y sir gyfan mae Camau@Iechyd yn chwilio am wirfoddolwyr i arwain teithiau. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna, mae Cydlynydd y Prosiect, Paul Morris yn disgwyl eich galwad ar 07747 564042 neu e-bost paul.morris@pembrokeshire.gov.uk
Cerdded ar eich pen eich hun
Os na allwch gerdded gydag un o'n grwpiau ond yn dal eisiau dechrau cerdded mwy, mae gennym rai taflenni i'ch helpu i'ch i fynd ar eich pen eich hun.
10000 o Gamau r Diwrnod (lawrlwytho 90k)
Cerdyn Cyfrif Camau (lawrlwytho 95k)
Partneriaid
Mae Camau@Iechyd yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o fudiadau lleol. Ar hyn o bryd fe'i cyllidir gan Her Iechyd Sir Benfro. Mae Her Iechyd Sir Benfro'n bartneriaeth o fudiadau lleol, sy'n cydweithio i wella iechyd a lles. Ymhlith y partneriaid mae Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro.
Rhaglen Teithiau Camau@Iechyd
Abergwaun
Bore Llun ac ar ol cinio Dydd Iau
Cysylltwch ag Ian 01348 872853
Llandissilio
Cysylltwch ag Andrew 01437 563876
Aberdaugleddau
10:30am a y Sadwrn 1af a'r 3ydd bob mis-cwrdd y tu allan i Tesco
Cysylltwch â Ray 07909 550508
Cil-maen
Dydd Llun 1:30pm cwrdd wrth y Ganolfan Gymunedol
Cysylltwch â Pauline 01646 683048
Arberth
Dydd Mercher 10:30am cwrdd wrth yr Arosfan ger yr Ysgol Gynradd
Cysylltwch â Ruth 01834 860806
Doc Penfro
Dydd Sadwrn 10:30am cwrdd y tu allan i'r Llyfrgell
Cysylltwch â Peggy 01646 622082
Llandudoch/Cilgerran
Dydd Llun 10.00am cyfarfod ger y cerflun Dwrgi, Yr Hen Bont, Aberteifi
Cysylltwch â David 01239 615758
Dinbych-y-pysgod
Dydd Sadwrn 10:30am cyfarfod y tu allan i Archfarchnad Somerfield
Dydd Mercher 2.00pm cyfarfod ger man aros Bysiau Rhodfa'r De
Cysylltwch â Barbara 01834 844845
Ymholiadau Cyffredinol
Cysylltwch â Paul Morris ar 07747 564042
Dolennu
Gerdded Llwybr Iechyd Cymru (Mewn ffenest newydd)
Cerdded Llwybr Iechyd (Lloegr) (Mewn ffenest newydd)
Llwybr Iechyd (Alban) (Mewn ffenest newydd)
Menter Dewch i Gerdded Cymru (Mewn ffenest newydd)